Cynhadledd Cyfrwng – 3 diwrnod i fynd!

by

cyfrwngErs rhai misoedd bellach mae rhai o staff Mercator wedi bod yn gweithio ar ffurfio rhaglen Cynhadledd Cyfrwng 2008. Teitl y gynhadledd yw “Cydgyfeiriant :: Llwyfannau Newydd” ac rydym yn edrych mlaen yn arw i glywed rhai o banelwyr a siaradwyr y gynhadledd.

Yno hefyd bydd gwobr flynyddol Cyfrwng yn cael ei rhoi i Owen Edwards am ei gyfraniad enfawr i’r cyfryngau yng Nghymru. Gellir gweld erthyglau am hyn drwy ddilyn y dolenni isod.

Gallwch lawrlwytho’r rhaglen oddi ar wefan Cyfrwng.

Mercator staff have recently been working on preparing the way for this year’s Cyfrwng conference which is hosted by the Department of Theatre, Film and Television Studies at Aberystwyth University. The theme this year is “Convergence :: New Platforms”, and it will take place at the National Library of Wales. The location, although perhaps conjuring images of books and dust, is ideally suited to the task with it’s technologically adept Drwm auditorium.

The Cyfrwng award this year will be presented to Owen Edwards, the first chief executive of S4C.

To see the full programme of presentations and panels click here.

Dolenni / Links :

BBC Cymru’r Byd “Teyrnged i Owen am ei gyfraniad

Daily Post “S4C boss is to be honoured by peers

Advertisements

Tagiau: , , , , , , , , , , ,

4 Ymateb to “Cynhadledd Cyfrwng – 3 diwrnod i fynd!”

  1. Annette Strauch Says:

    Cynhadledd Cyfrwng – yn ddiddorol iawn achos mae teledu a we yn newid trwy’r amser. Mae llawer o gwmnioedd preifat mewn byd teledu yng Nghymru nawr.

  2. Annette Strauch Says:

    Sut aeth e’n mynd? (Cynhadledd Cyfrwng)

  3. Rhodri ap Dyfrig Says:

    Aeth y gynhadledd yn dda iawn diolch. Roedd dros 100 o gynadleddwyr a llawer i drafodaeth ddiddorol, ond yr uchafbwynt i mi oedd seremoni wobrwyo Owen Edwards, Prif Weithredwr cyntaf S4C. Roedd yn foment emosiynol iawn i bawb oedd yno ac roeddwn yn hynod o falch o gael y cyfle i fod yno i ddathlu ei gyfraniad enfawr i gyfryngau Cymru.

    Gweler y llun yma gan Traed Mawr]

  4. Annette Strauch Says:

    Bore da Rhodri, diolch yn fawr. ‘Rwy’n meddwl bod S4C yn dda iawn oherwydd gwaith gan pobol fel Owen Edwards. Da cael y llun gan Traed Mawr. ‘Rwy’n hoffi y safle S4C newydd ar y we gyda rhaglenni. I fi, mae hi’n bwysig i ddeall y sefyllfa yng Nghymru – pa mor anodd oedd hanes y teledu yng Nghymraeg yma. ‘Rwy’n hoffi bod llawer o bobol ifanc yn cyflwyno rhaglenni.

    Llongyfarchiadau!

    Mae dyfodol gyda grwpiau fel Tinopolis (cwmni preifat) ‘rwy’n meddwl.

Mae'r sylwadau wedi cau.


%d bloggers like this: