Dolenni Medi…

by

O’r diwedd fe gyrhaeddodd BBC Alba, y gwasanaeth darlledu Gaeleg ar gyfer yr Alban sy’n cael ei ddarparu gan y BBC ar y cyd gyda MG Alba, ar y 19eg Medi. Mae’n cynnwys sianel deledu ddigidol sydd ar gael i’w wylio ar Sky 168 a Freesat 110 (mae darlledu ar DTT yn amodol ar adolygiad yn 2010); BBC Radio nan Gàidheal a BBC Alba Arlein. Gallwch wylio’r munudau cychwynnol isod:

Dyma hefyd gofnod blog gan Daniel Cunliffe ar ffenomenon “crowdsourcing” (trosi torfol? ) ar gyfer cyfieithu gwefannau fel Rhaglen Gyfieithu Facebook sydd nawr wedi gorffen cyfieithu Facebook i’r Gatalaneg a’r Gymraeg. Mae hefyd ar gael mewn Saesneg Môr Ladron (gweler y dewis iaith ar dudalen gartref Facebook), ond rydym yn ansicr faint o fôr ladron go-iawn a gyfrannodd at y lleoleiddiad.

Advertisements

Tagiau: , , , ,


%d bloggers like this: